Y Wennol - digital download
Digital Download of "Y Wennol" by Lo-fi Jones
Y Wennol (The swallow) Geiriau gan/ lyrics by Siôn Rickard, cerddoriaeth gan / music by Siôn Rickard a Liam Rickard, Rhagfyr/December 2022
Sbïa'r wennol chwim Yn hollti'r awyr gwyn. Mi deimlaf heddwch prin O'i gwylio ar ei hynt
Ar adenydd brau Mor driw ei hediant clau Aderyn diwyd, dwys ei thaith Pererin dewr y gwynt
O wennol o wennol I ble rwyt ti'n mudo? Dros foroedd drycinol Er gwyntoedd gorlethol O wennol o wennol Be sy'n dy orfodi I adael ein glannau? Glastiroedd Cymru O wennol o wennol O be ti di gwylio Yn teithio mor uchel, Mor bell ar dy chwilio O wennol o wennol A wyt ti'n hiraethu?
Dwi di blasu dŵr Llynnoedd Cymru Geirionnydd, Elsi, Efyrnwy Uwch Bannau Brycheiniog, Eryri Y Pyrenees, Ffrainc, a Sbaen
Dwi di yfed aer sych y Sahara Newyn, unigrwydd, a galar Dros goedwig y Congo A'i thrannau Cyn gorffwys fy adenydd bach main
O wennol, o wennol Pam wyt ti'n ymadael? O wennol, o wennol Oes rhaid i ti adael? O wennol, o wennol A ddoi di yn ôl? Pan ddaw eto'r haul
O nid yw fy mywyd yn foethus A wir does gen i ddim dewis Ond gadael cyn troad y tywydd I deithio dros hanner y byd
Ac wrth ddod yn ôl Gwelais eraill fel fi Ymfudwyr mewn cychod Ar drai ar y llu Yn gadael pob cysur Mewn gobaith Ar drugaredd y tonnau cryf
O wennol, o wennol Pam wyt ti'n ymadael? O wennol, o wennol Oes rhaid i ti adael? O wennol, o wennol A ddoi di yn ôl? Pan ddaw eto'r haul
Poetic Translation by Siôn Rickard
See the swallow, swift Splitting a white sky I feel a rare peace To watch her skimming by
On fragile wings, so slight So true, and quick her flight Steadfast pilgrim, glimmering blue Against the cold winds might
Oh swallow, oh swallow, Where are you headed? Across stormy seas, Through winds overwhelming Oh swallow, oh swallow, What is it that drives you To leave these fair shores Wales' green offering? Oh swallow, oh swallow What have you seen, travelling so high, so far in your searching, Oh swallow, oh swallow, Oh what is this yearning?
I've tasted Welsh lakes on my journey Geirionnydd, Elsi, Efyrnwy Over mountains, Brycheiniog, Eryri, The Pyrenees, France and Spain. I’ve drank the dry air of Sahara, In solitude, sorrow, and hunger Over Congo's great forests and thunder Before resting my wings once again
Oh swallow, oh swallow, Why are you leaving? Oh swallow, oh swallow As surely as breathing Oh swallow, oh swallow Will you return, when the sun comes back again?
My life is not one of riches, And truly I have no choice but this To leave at the turn of the weather And travel across half the world And as I return I see others like me Migrants in boats Adrift but not free Clinging to hope and to meaning, At the mercy of waves and the sea
Oh swallow, oh swallow, Why are you leaving? Oh swallow, oh swallow As surely as breathing Oh swallow, oh swallow Will you return, when the sun comes back again?