Bydd Goleuni yn yr Hwyr
[trac digidol digital download]
Digital download o'n sengl newydd, Bydd Goleuni yn yr Hwyr.
Geiriau/ lyrics:
Bydd goleuni yn yr hwyr Mae’n hawdd anghofio’n llwyr O ddydd i ddydd Beth sydd yn y pridd O dan ein traed, yn yr aer ac yn y gwaed
Ac wrth i’r cwmwl cuddio’r copa A’r glaw i lanhau’r clwyf Pan ti’n teimlo fel rhoi’r gorau i bopeth A fydd goleuni yn yr hwyr?
Aros mae’r mynyddau Tawel gwylio megis cynt Rhuo drostynt awyrennau Trais peiriannau ar y gwynt
Yn y creigiau hen atgofion Cyn dyn, a’i mentrau mawr Ai niwl neu fwg o’r tanau Sy’n gorchuddio’n llwybr nawr?
Ac wrth i’r cwmwl cuddio’r copa A’r glaw i lanhau’r clwyf Pan ti’n teimlo fel rhoi’r gorau i bopeth A fydd goleuni yn yr hwyr?
Ac wrth i’r cwmwl cuddio’r copa A’r glaw i lanhau’r clwyf Pan ti’n teimlo fel rhoi’r gorau i’r ymdrech Bydd goleuni yn yr hwyr
Cyfieithiad/translation:
There will be light in the evening It’s easy to forget completely From day to day What is in the soil Beneath our feet, In the air and in the blood
And as cloud covers the summit, And rain to clean the wound, When you feel like giving up On everything Will there be light in the evening?
The mountains wait Quietly watching as before Roaring over them, (fighter) jets Machines’ violence wrought upon the wind
In the rocks, old memories Before man and his great ventures, Is it fog or smoke from the fires That obscures our path now?
And as the cloud hides the summit, And rain to clean the wound, When you feel like giving up On everything Will there be light in the evening?
And as the cloud hides the summit And rain to clean the wound, When you feel like giving up the struggle There will be light in the evening