Blog Bio Videos Lluniau/pics Discography Gigs
Sign Up

Sesiwn yn Stiwdio Sain / recording session in Stiwdio Sain Aug 3, 2023

Newyddion cyffroes iawn: rydym wedi cyrraedd y pedwar olaf ym Mrwydr Y Bandiau Gwerin 2023 yn yr Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd !! :D Eleni ydi'r tro cyntaf i'r gystadleuaeth yma gael ei chynnal. Mae'n anrhydedd go-iawn i fod yn rhan ohono.

Dyma fidio wnaethon ni ei recordio yn ddiweddar yn Stiwdio Sain, Llandwrog. Y gân ydi "Afon" oddi ar ein EP cyntaf. Bydd y gystadleuaeth yn gychwyn am 15:20 ar ddydd Mawrth yn y Tŷ Gwerin. Yn ogystal â hyn, byddwn yn perfformio nos Wener yn gig Cymdeithas yr Iaith, Nefyn (cychwyn am 19:30), yn rhannu'r noson gyda'n ffrindiau, Tacla a Bwncath! Rydyn ni’n ffans mawr o'r ddau grŵp yma, ac wedi jamio gyda Tacla yn eitha aml. Hefyd yn perfformio bydd Twmffat, band arall rydyn ni’n ei edmygu’n fawr; mi wnaethon ni eu cefnogi nhw blynyddoedd yn ôl yn Llanrwst gyda’n hen grŵp Naughty Magic Simon. Byddwn ni'n gorffen ein hwythnos o Eisteddfod gyda gig Tŷ Gwerin am 18:15 nos Wener.

image description

image description

Music Player

Facebook feed
Follow

By signing up you agree to receive news and offers from Lo-fi Jones. You can unsubscribe at any time. For more details see the privacy policy.