Gorwelion / Horizons Launchpad Fund 2024
Rydan ni'n falch iawn i gyhoeddi ein bod ni wedi bod yn llwyddianus yn ein cais am nodd gan Gronfa Lansio Gorwelion!
We are delighted to announce that we’ve been successful with our application to this year’s round of Horizons Launchpad Funding!
Ar ddydd Mawrth, es i lawr o Fachynlleth i Gaerdydd lle mae Siôn yn byw, ac aethom i Stiwdio BBC Cymru i gyfarfod gweddill yr artistiaid sydd wedi cael eu noddi, DJs o Radio Cymru, Radio Wales, a Radio 1, a phobl o Gyngor y Celfyddydau.
On Tuesday, I went down from Machynlleth to Cardiff where Siôn lives, and the two of us went to the BBC Wales studio to meet the other artists in reciept of the fund, DJs from Radio Cymru, Radio Wales, and Radio 1, and poeple from the Arts Council.
Cawsom ni amser braf, maen nhw'n griw hyfryd! Roedd o'n wych i gyfarfod lot o bobl newydd, ac i dal fyny efo'n hen ffrind, George, o'r band Ffenest!
We had a nice time, they are a lovely group of people. It was great to meet lots of new people and to catch up with our old friend, George, from the band Ffenest!
Rydan ni'n brysur yn gweithio ar fideos a thraciau newydd, ac rydan ni'n edrych 'mlaen i rannu nhw gyda chi blwyddyn yma!
We are busy working on new videos and recordings and we look forward to sharing them with you this year