Llanast Yn Y Llofft allan heddiw / debut EP out today!
Ar ôl canoedd o oriau hir, rydan ni'n hapus iawn i cyflwyno ein EP cyntaf, "Llanast Yn Y Llofft". Ysgrifennom y caneuon hyn dros y tair blynedd diweddaf. Maent yn sôn am ein profiad personol o dyfu fyny yn gefn gwlad Eryri heb digon o bysus, symud i Lundain a'r holl herion oedd yna, traddodiad od geafol y Mari Lwyd, hanes, cymuned, a’r newidiadau amgylcheddol sy'n effeithio pawb o'r amazon i Ddyffryn Conwy. Mae mwyafrif yr EP wedi'i recordio a'i chynhyrchu yn stafell wely Siôn.
After many long hours, we are delighted to finally release our debut EP, "Llanast yn y Llofft" (a mess in the bedroom). We wrote these songs over the past 3 years. They cover themes of growing up in rural Snowdonia without enough public transport, moving to London and the challenges of that, the strange Welsh winter tradition of Mari Lwyd (the horse's skull on a stick), history, community and climate change, which is effecting everyone from the Amazon to Dyffryn Conwy. The EP was recorded and produced mostly in Siôn’s bedroom.
Lawr-lwytho/download + geiriau/lyrics (Translations coming soon)
Diolch yn fawr iawn i bawb nath gyfrannu: Tom Wolstenholme (bas ar trac 1), Nicolas Davalan (bas dwbl, trac 3), Ailsa Mair Fox (sielo, trac 3), Frankie Archer (ffidil, trac 4), Dylan Cernyw (telyn, trac 6), Catrin Angharad Jones (llais, trac 7), Irfan Rais (llais, bouzouki a yanqin ar trac 7), Jack O hAonghusa (bodhrán, trac 7), Ciara Rickard (fideos a trydydd clust), Rhiannon Hincks (pedwerydd clust), Tom Williams (pumed clust), Gareth Williams (chweched clust, cyngor ffasiwn). Ac hefyd i'r band sy'n chwarae gyda ni'n fyw: Rolando, Badger, Gareth, Ailsa, Spiv a Ben.
Wela chi nos wener yn y Llew Coch / see you Friday in the Llew Coch, Machynlleth.
Liam, 22/11/22