Llethrau (2024) [sengl digidol]
Digital download of "Llethrau"
About: This is a translation of our song "Slag Heap" from our debut EP "Llanast Yn Y Llofft". It was recorded in October 2023 for Aled Hughes' program on BBC Radio Cymru. It was written by Siôn, and it's about the slate quarry where we grew up.
Geiriau:
Dringa'r llethrau Cyn colli'r haul Y llechi 'sgithrog Y gwynt yn cipio'r dail O fan hyn fedrai weld Y dyffryn a'i bob craith Lle curodd cŷn a phowdr du I gerfio'r tir a'n hiaith Uwchben y cledrau rhydlyd oer A strydoedd ieuenctid gynt Cyn i injan cyfalafiaeth ein 'sgubo ar ein hynt
Mewn byd mor swnllyd, mae'n anodd gweld yn glir 'sgen i'm atebion Mor rhyfedd ydy'r gwir Ond fama gwelai Siâp i'r sŵn Ei gerfio'n siâp y tir Y cribau ar gopaon Sy' di goddef oesoedd hir Mae'n brifo i mi adael Ond mae'n rhaid derbyn y cur A throi o'm noddfa, o fy mynyddoedd
Maen nhw’n deud mai glo a llechi Oedd seiliau'n gwlad fach lan A thrwy'r wythïen llif y gwaed nath borthi'r tân Oer yw’r peiriant Pell yw’r fflam Ond dwi’n dal i deimlo ysbryd Y bois a aeth o dan Allan ar y llethrau ymysg y llechi man Beth oedd y freuddwyd Beth oedd eu cân
Sychwch ddagrau a ddisgynnodd gynt Hen ofidion sy’n anochel ar ein hynt Wrth droi am adre, a’r haul wedi mynd Daw y hiraeth i’m cofleidio fel hen ffrind.
Credits:
Siôn Rickard - cyfansoddwr, llais, harmonica Liam Rickard - gitar Badger Brown - ffidil Rolando Bertrand Ruiz - cajon, bas
Wedi'i recordio a'i chymysgu gan Mike West yn Our Lady Studio, Borth ar gyfer rhaglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru